Llwyfandir gwyllt a gwag yw Mynyddoedd Cambria, yn gorwedd rhwng Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog. Nhw yw darpar pedwerydd parc cenedlaethol Cymru; ar ôl cael eu dynodi felly ym 1972 o ganlyniad i gynghrair anfad o berchnogion tir a gwleidyddion, twyllwyd y Parc o'r gydnabyddiaeth a'r diogelwch teilwng yma.
Ar un adeg, yr enw ar y mynyddoedd oedd "Diffeithdir Gwyrdd Cymru", a does dim syndod o ystyried fod eu huchder ar y cyfan rhwng 1500' a 2000', a does yna ddim aneddiadau sylweddol o ran maint, ar wahân i rai ar yr ymylon. Mae nifer o afonydd pwysig yn tarddu o'r mynyddoedd hyn, a'u dyffrynnoedd hwy yn hollti'r llwyfandir, ac yn rhoi naws arbennig i'r mynyddoedd, yn ogystal â chysgod i ffermydd unig, a llwybrau i deithwyr.
Ffordd yr A44 sy'n rhannu Mynyddoedd Cambria - yr unig briffordd i'w croesi. Tua'r gogledd mae Pumlumon, sy'n cynnwys copa uchaf Mynyddoedd Cambria. Masiff yn hytrach na chopa unigol yw Pumlumon. Mae afonydd Hafren a Gwy yn tarddu ar ei llethrau, ac o'r ucheldir, ceir golygfeydd o ucheldir Cymru gyfan; yn cuddio yn y llethrau mae llynnoedd a golygfeydd bendigedig o'r mynyddoedd, rhaeadrau, dyffrynnoedd diffaith a tharenni awelog.
Ar ochr ddeheuol yr A44 mae Elenydd, gweundir eang gydag ond ychydig o gopaon nodedig. Cwm Elan yw ei nodwedd enwocaf, gyda'i chronfeydd dwr sy'n cyflenwi dwr i ddinas Birmingham, ond yma hefyd mae tarddleoedd afonydd Irfon, Teifi a Thywi. Drygarn Fawr yw'r mynydd uchaf, ac ymysg perlau eraill Elenydd mae Pyllau Teifi, Cwm Doethïe a Chwm Pysgotwr, a Mynydd Mallaen.