Llanidloes Mid Wales
Llyn Clywedog

 

> Croeso

> Darganfod Llanidloes

> Pethau i'w gwneud

> Bwyta, Yfed a Chysgu

Chwilio ar llanidloes.com:

 

www.llanidloes.com
Llanidloes town logoL.L.A.N.I. Ltd
Town Hall
Llanidloes
Powys
SY18 6BN
01686 412388
+44 1686 412388

> Hafan   > Darganfod Llanidloes   Llyn Clywedog

Gweler hefyd:   > Llyn Clywedog Photo Gallery

Le Llyn Clywedog

Llyn Clywedog

Cronfa ddwr wneud yw Llyn Clywedog, a adeiladwyd tu ôl i argae Clywedog. Adeiladwyd yr argae rhwng 1965-67 er mwyn rheoli llif y dwr i afon Hafren, a hynny er mwyn diogelu yn erbyn llifogydd yn ystod misoedd y gaeaf ar rannau ucha'r afon a hefyd i gynnal llif yr afon yn ystod yr haf.

Llyn ClywedogMae nifer o ystadegau diddorol yn deillio o adeiladu'r argae a'r gronfa ddwr. Yr argae concrit yw'r talaf trwy Brydain, yn cyrraedd taldra o 236 troedfedd (72m) Mae'n 750 troedfedd mewn hyd, ac yn dal rhyw 11,000 miliwn galwyn o ddwr. Mae hyn yn golygu digon i lenwi rhyw 550 miliwn baddon, neu lond 264 biliwn gwydraid o ddwr. Mae'r concrit a ddefnyddiwyd i adeiladu'r argae yn pwyso cymaint â 7 gwaith pwysau llong y QE2, cyfanswm o ryw 200,000 o fetrau ciwbig; byddai hynny'n ddigon i adeiladu 28 milltir o draffordd chwe lôn.

Mae arwynebedd y llyn yn mesur 615 erw (230 o gaeau pêl droed), mae'n 216 troedfedd yn y lle dyfnaf ac yn ymestyn rhyw chwe milltir mewn hyd. Yn y lle mwyaf llydan, dim ond rhyw 500 llath mae'n mesur. Adeiladwyd ffyrdd yn mesur rhyw 15 milltir mewn hyd, yn rhai newydd neu rhai wedi'u gwella, wrth adeiladu'r argae ei hunan, ynghyd â dwy bont newydd. Mae ail argae, sy'n llawer llai amlwg ym Mwlch-y-gle. Adeiladwyd yr argae hwn o bridd, gydag wyneb o gerrig, sy'n mesur rhyw 40 troedfedd mewn uchder a 600 troedfedd mewn hyd, a'i bwrpas yw atal y llyn rhag llifo i ddyffrynnoedd cyfagos y naill ochr a'r llall i Bryn y Fan, sef y mynydd uchaf o gwmpas y llyn, a nodwedd drawiadol sy'n amlwg yn yr ardal.

Llyn ClywedogDwr Hafren Trent sy'n berchen ar ac yn rhedeg Clywedog; dyma'r pedwerydd cwmni mwyaf o ran maint ym maes gwasanaethau dwr yn y byd. Yn ogystal â defnyddiau ymarferol, mae Llyn Clywedog hefyd yn adnodd hamdden. Mae Dwr Hafren Trent wedi llunio nifer o lwybrau megis Llwybr Ceunant Clywedog o gwmpas adfeilion Bryn Tail a Llwybr Llyn Clywedog, tra bo nifer o golygfannau o gwmpas y llyn lle gall ymwelwyr fanteisio ar y golygfeydd gwych. Mae Llwybr cenedlaethol Glyndwr hefyd yn mynd o dan yr argae cyn dilyn glannau deheuol y llyn – un o rannau harddaf y llwybr.

Mae Llyn Clywedog yn gynefin delfrydol i fywyd gwyllt. Erbyn heddiw mae'r Bwncath a'r Barcud Coch i'w gweld yma'n aml, ac yn ddiweddar gwelwyd Gwalch y Pysgod yma hefyd. Mae'r llyn yn denu Hwyaid Gwyllt, tra bo'r Dylluan Frech, y Gwybedog Brith a llu o Ditwod wedi ymgartrefu yn y coedwigoedd ar lannau'r llyn. Mae ieir bach yr haf amrywiol i'w gweld yn ystod yr haf (yn eu mysg: porthor, llwyd y ddôl, copr bach, glöyn trilliw bach, a'r glesyn cyffredin) yn gwibio ymysg y glaswellt a phlanhigion megis teim gwyllt, tresgl melyn, botasau'r gog, fioledau a llwyni grug. Mae gwiwerod yn gyffredin iawn, ac yno hefyd gwelir ffwlbartiaid, llwynogod a llygod y gwair druan, sy'n enwog fel prif ffynhonnell bwyd adar ysglyfaethus a chigysyddion eraill sy'n byw ar lannau'r llyn.

Mae digonedd o frithyll a brithyll seithliw yn y llyn - Cymdeithas Bysgota Llanidloes sy'n berchen ar yr hawliau pysgota ac sy'n gyfrifol am reoli'r pysgota ar y llyn. Clwb Hwylio Clywedog sydd yng ngofal hwylio ar y llyn. Mae'r ddau glwb yma'n cynnal nifer o gystadlaethau a regatas trwy gydol y flwyddyn, ac estynnir croeso cynnes i ymwelwyr.

Llyn ClywedogFel rhan o'r golygfan ar yr argae, mae Dwr Hafren Trent wedi creu Gwylfan - llwyfan uchel (gyda chysgod rhag y gwynt a'r glaw) lle ceir golygfa fendigedig o'r wlad o'ch cwmpas. Hefyd yn y Gwylfan, ceir Caban y Barcud Coch, lle cewch baned a byrbryd (tywydd yn caniatau).

Llyn Clywedog

© 2002 - 2007   L.L.A.N.I. Ltd   All rights reserved