Llanidloes Mid Wales
Coedwig Hafren

 

> Croeso

> Darganfod Llanidloes

> Pethau i'w gwneud

> Bwyta, Yfed a Chysgu

Chwilio ar llanidloes.com:

 

www.llanidloes.com
Llanidloes town logoL.L.A.N.I. Ltd
Town Hall
Llanidloes
Powys
SY18 6BN
01686 412388
+44 1686 412388

> Hafan   > Darganfod Llanidloes   La forêt de Hafren

Gweler hefyd:   > Hafren Forest Photo Gallery

Gweler hefyd:   > Source of the Severn Walk Photo Gallery

Coedwig Hafren

Coedwig Hafren

O Afon Hafren y daw enw'r Goedwig hon - mae tarddle'r afon rhyw filltir o ffin orllewinol y goedwig, yn uchel ar lethrau Pumlumon, mynydd uchaf Canolbarth Cymru. Erbyn heddiw mae'r goedwig rhyw 40 cilometr sgwâr o ucheldir mewn maint, a chychwynnwyd ar waith coedwigo masnachol yma ym 1937 trwy blannu pinwydd a phyrwydd mewn ardal lle bu dim ond defaid a llond llaw o adfeilion gwaith cloddio plwm.

Er bod y goedwig dal yn fenter fasnachol sy'n cynhyrchu coed i'w droi yn fwydion ar gyfer papurau newydd, bwrdd sglodion, paledi, deunyddiau ffensio a'r diwydiant adeiladu, mae'r cylch cwympo o bedwar deg i bum deg mlynedd yn galluogi'r Comisiwn Coedwigaeth i reoli'r Goedwig fel cynefin i fywyd gwyllt, ac fel man tawel hamddenol i ymwelwyr ei fwynhau. Mae cynlluniau tirlunio yn golygu fod coed newydd yn cael eu plannu yn lle'r rhai a gwympwyd, tra bo mannau agored ar lannau afon Hafren a'i hisafonydd, sydd wedi eu plannu'n rhannol gyda choed llydanddail, yn helpu gofalu am iechyd y nentydd a'u gwneud yn gynefin gwych ar gyfer llu o fflora a ffawna.

Hafren Forest trailMae mwsogl a glaswelltau amrywiol yn ffynnu ar lannau'r afon, ac yn ystod misoedd yr haf mae Tresgl, Crinllys y Gors a Llafn y Bladur i'w gweld yno. Mae'r goedwig yn hafan i adar, gyda'r Bwncath, y Gwalch Marth a'r Barcud Coch prin i'w gweld uwch eich pen. Mae'r Cudyll Bach a'r Gwalch Glas yn byw ar ymylon y goedwig, tra bo plu glas Ysgrech y Coed i'w gweld yn ddyfnach yn y goedwig. Mae hadau conau'r pinwydd a'r pyrwydd aromatig yn denu heidiau o Groesbigau a gellir gweld yr adar hyn yn bwydo yn y coed. Mewn ardaloedd lle cwympwyd a phlannwyd coed newydd, mae'r coed ifanc yn gynefin delfrydol ar gyfer y Troellwr Mawr. Yn y nentydd niferus mae digonedd o drochwyr, llyffantod, llyffantod du ac amffibiaid eraill yn byw, tra bo bron pob math o bysgodyn dwr croyw i'w weld yn afon Hafren a'i hisafonydd, ac yma y ceir mannau claddu wyau eogiaid sy'n ymfudo.

Hafren Forest trailEr mwyn gofalu fod ymwelwyr yn gwneud y gorau o'u hymweliad â'r goedwig, mae'r Comisiwn Coedwigaeth wedi creu nifer o lwybrau gwahanol ar lannau afon Hafren, a thrwy'r pinwydd a'r pyrwydd tal. I'r rhai sy'n cael anhawster symud, dyluniwyd llwybr y Rhaeadrau trwy gydweithrediad y Gymdeithas Leol i Bobl Anabl. O ganlyniad ceir yma llwybr hygyrch ar hyd byrddau i fyny at y rhaeadrau ar afon Hafren - a dyna darddiad enw'r llwybr. Rhaeadr arall yw canolbwynt llwybr Blaen Hafren, taith tair milltir o hyd trwy galon y goedwig, tra bo rhaeadr wirioneddol cyntaf ar hyd llwybr afon Hafren, gyda'r enw addas dros ben o "Rhaeadr Dwr-Torri-Gwddf" wedi arwain at daith o'r un enw. Y daith hiraf a mwyaf heriol o bell, yw'r un sy'n eich tywys at Darddle afon Hafren. Mae'r daith hon, sy'n saith milltir o hyd, yn eich tywys trwy'r goedwig i lethrau Pumlumon, ac yn cynnwys rhai o'r golygfeydd mwyaf trawiadol a gwyllt yng Nghanolbarth Cymru. Mae'r holl lwybrau hyn yn eich tywys yn ôl i'r man cychwyn ac yn ardal y Man Picnic a'r Toiledau yn Rhydybenwch, saith milltir o Lanidloes. Ar ben hyn mae nifer o lwybrau trwy'r goedwig ac ar hyd y ffyrdd yn ddelfrydol i bobl sydd am feicio.

Walking on the Wye Valley Route in the Hafren Forest
Walking on the Wye Valley Route in the Hafren Forest

© 2002 - 2007   L.L.A.N.I. Ltd   All rights reserved