Tref hanesyddol iawn yw Llanidloes. Mae carneddau ar ben y mynyddoedd cyfagos yn dystiolaeth fod pobl wedi byw yma amser maith yn ôl, tra bo'r Rhufeiniaid wedi adeiladu ffyrdd ac wedi cloddio am blwm yma yn ystod canrifoedd cynnar yr oes newydd. Mae tref Llanidloes heddiw yn dyddio nôl i'r Seithfed Ganrif, pan osodwyd seiliau eglwys ar dir wastad uwchben afon Hafren gan y Sant Idloes, un o'r seintiau Celtaidd. Ar ôl y Concwest Normanaidd yn 1066, cychwynnodd y dref ehangu, ac adeiladwyd castell tomen a beili ym mhen gorllewinol y dref ar y pryd, ar safle presennol Tafarn y Mount a Chanolfan Gymunedol y dref. Ym 1280 derbyniodd Llanidloes ei Siartr gyntaf, gan Edwart I, a dilynwyd hyn ym 1344 gan Siartr oedd yn golygu fod y dref yn fwrdeistref hunanlywodraethol; roedd y statws yma dal mewn grym hyd at 1974. O'r adeg yma y deilliodd cynllun strydoedd llydan canol y dref mewn siâp croes; gyda Hen Neuadd y Farchnad yr unig esiampl o adeilad hanner coediog o'i fath trwy Gymru dal yn ei safle gwreiddiol, ar ôl cael ei hadeiladu ar ganol y groes yn gynnar yn y 1600au.
Tref ddiwydiannol bu Llanidloes trwy'r canrifoedd, a daeth yn enwog nifer o weithiau, am ansawdd ei gwlân yn ystod yr Unfed Ganrif ar Bymtheg, ac am ei brethyn yn ystod y Deunawfed a'r Pedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Efallai mai digwyddiad unigol mwyaf trawiadol hanes tref Llanidloes oedd hanes y Siartwyr yn deillio o'r dirwasgiad yn y diwydiant brethyn yn ystod y 1830au. Arweiniodd hyn at ddiwygiad gwleidyddol sylweddol. Nid Llanidloes oedd yr unig le lle'r oedd y Siartwyr yn gryf, ond ar ddiwedd Ebrill 1839 arweiniodd cyfuniad o amgylchiadau at derfysg oedd mewn gwirionedd wedi trechu awdurdod cyfansoddiadol swyddogion y dref am bum niwrnod, nes llwyddodd y milwyr i ‘adennill trefn'. Parhaodd tref Llanidloes dan reolaeth filwrol am flwyddyn gyfan, tra cynhaliwyd nifer o achosion llys, a chafodd dros gant o bobl naill ai eu halltudio neu eu carcharu.
Yn ystod canol y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, datblygodd diwydiant smeltio plwm yn yr ardal, yn prosesu mwyn o byllau plwm lleol yn y Fan a Bryn Tail. Ar yr adeg yma, dyblodd poblogaeth Llanidloes o'i chymharu â'r 2,500 o drigolion sy'n byw yno heddiw. Mae'r chwyddiant yma wedi gadael ei ôl ar y dref - mae hyn i'w weld yn y cymysgedd o bum capel o enwadau amrywiol (heb sôn am hen eglwys hybarch Sant Idloes) sy'n cydfodoli gyda dwbl y nifer o dafarndai. A dweud y gwir, adeiladwyd Neuadd y Dref bresennol fel gwesty dirwest, yn rhodd gan deulu Davies Plas Dinam oedd yn poeni ynghylch y meddwdod oedd yn gyffredin yn y dref ar droad y Ganrif ddiwethaf.
Yn ei anterth, roedd Llanidloes hefyd yn bwysig o safbwynt y rheilffyrdd – roedd gan o leiaf tri chwmni rheilffordd swyddfeydd yn yr adeilad mawreddog a adeiladwyd ym 1864, yn dyddio o oes Fictoria.
Mae treftadaeth dal yn bwysig yn Llanidloes - gwelir tystiolaeth o hyn gyda'r gwaith ailddatblygu diweddar ar amgueddfa'r dref, y gwaith adnewyddu a wnaethpwyd ar Hen Neuadd y Farchnad, a thrwy greu Canolfan Celfyddydau Minerva sy'n gartref i gasgliad pwysig o Gwiltiau Cymreig.